Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
27 Medi 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad bydd y gwasanaeth Fflecsi Bwcabus yn dod i ben, ac effaith hyn ar gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru?
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau y bydd ysbyty Llwynhelyg ar gau yn rhannol am y rhan fwyaf o 2024?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Gwneud offerynnau statudol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE
(5 munud)
NDM8363 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Gwneud offerynnau statudol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2023.
2. Yn cymeradwyo'r cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 21, 27, 30B a 30C, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
6 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Datganoli dŵr yn llawn
(60 munud)
NDM8274 Rhys ab Owen (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer dŵr gyda'r ffin genedlaethol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am y pwerau i drwyddedu cyflenwad dŵr neu drwyddedai carthffosiaeth a thrwy hynny ddatganoli dŵr yn llawn i Gymru.
Cyd-gyflwynwyr
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Dileu popeth a rhoi yn ei le
1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ohirio deddfu adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017.
2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi dweud, mewn llythyr wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU yn 2018, fod y broses o sicrhau bod cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn cyd-fynd â ffiniau daearyddol yn gymhleth.
3. Yn croesawu parodrwydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda'u cymheiriaid yng Nghymru i gytuno ar amserlen sy'n gweithio orau i'r ddwy lywodraeth a'r diwydiant dŵr.
7 Dadl ar ddeiseb P-06-1332 - Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech gwiwerod
(30 munud)
NDM8359 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod’ a gasglodd 11,306 o lofnodion.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Asedau cymunedol
(30 munud)
NDM8361 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod asedau cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol ac yn darparu mynediad pwysig at wybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol.
2. Yn cydnabod ymhellach fod asedau cymunedol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn caniatáu i gymunedau lleol gymryd rheolaeth dros lunio'r ardal y maent yn byw ynddi.
3. Yn nodi adroddiad Archwilio Cymru ar gydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau, sy’n nodi bod awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd grymuso pobl a chymunedau i fod yn fwy hunanddibynnol ac yn llai dibynnol ar wasanaethau.
4. Yn gresynu nad oes hawl statudol i gymunedau yng Nghymru brynu tir neu asedau fel yn yr Alban, a dim hawl i wneud cynigion, herio, nac adeiladu fel yn Lloegr.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diogelu asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i reoli ac ehangu cyfleusterau sydd o fudd i’r gymuned leol; a
b) cyflwyno Cronfa Perchnogaeth Gymunedol a chynllun Hawl i Wneud Cynnig i gefnogi meddiannu asedau megis llyfrgelloedd, tafarndai, canolfannau hamdden a mannau gwyrdd.
Archwilio Cymru: 'Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau
Cefnogwyr
Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i:
a) amddiffyn asedau cymunedol drwy alluogi pobl leol i gynnal ac ehangu cyfleusterau sydd er budd i’r gymuned leol;
b) cydnabod, hyrwyddo a rhannu arferion gorau ar draws y sector cyhoeddus drwy Ystadau Cymru; ac
c) sefydlu Comisiwn Asedau Cymunedol â chylch gorchwyl i ysgogi syniadau arloesol pellach ar berchnogaeth gymunedol o dir ac asedau yng Nghymru.
9 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
(30 munud)
NDM8362 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn datgan nad oes ganddi hyder yn y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd o ystyried y nifer uchaf erioed o lofnodwyr i'r ddeiseb: 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya'.
10 Cyfnod Pleidleisio
11 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8360 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Y 'Draen Dawn' yng Nghymru: Heriau ac Atebion
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Hydref 2023